Buddion lleol

Mae Statkraft wedi rhoi cryn bwyslais ar fod yn gymydog da erioed. Mae ein hymrwymiad i sefydlu cronfa ar gyfer cymunedau ger pob un o'n Parciau Grid Gwyrddach yn arwain y blaen o ran prosiectau sefydlogrwydd y grid.

Rydyn ni'n falch o sefydlu cronfa gwerth £20,000 y flwyddyn er budd cymunedau lleol ger pob Parc Grid Gwyrddach. Bydd y taliad cyntaf i'r gronfa yn cael ei wneud ar ddechrau'r gwaith adeiladu, er mwyn helpu prosiectau lleol i gychwyn arni cyn i'r gwaith o adeiladu'r Parc Grid Gwyrddach gael ei gwblhau.  

Mae’r gronfa hon yn arbennig oherwydd bydd yn darparu llif rheolaidd o gyllid yn unswydd ar gyfer prosiectau, gan helpu i gyflymu'r dull pontio cyfiawn i gymdeithas carbon isel.

Gallai hyn gynnwys mentrau fel:

  • Hyfforddi ac addysgu trigolion lleol am ynni adnewyddadwy a lleihau allyriadau carbon
  • Mynd i'r afael â thlodi tanwydd drwy addysg ar fyw carbon isel
  • Cymorth ymarferol ar gyfer mentrau effeithlonrwydd ynni, o atalwyr drafftiau i bympiau gwres a mwy
  • Cynyddu mynediad at bwyntiau gwefru cerbydau trydan a hyrwyddo cerbydau trydan
  • Cefnogi cymunedau i ddatblygu eu prosiectau ynni adnewyddadwy eu hunain
  • Hyrwyddo dulliau teithio llesol, gan gynnwys e-feiciau
  • Cefnogi preswylwyr gyda gwybodaeth ar sut i ddilyn gyrfaoedd neu ailhyfforddi er mwyn ymuno â'r gweithlu sero net

Gwneud cais am gyllid

Rydyn ni wedi penodi GrantScape i sefydlu a gweinyddu arian o'n Parciau Grid Gwyrddach. Mae'n elusen uchel ei pharch ac yn arbenigwyr ar reoli cronfeydd cymunedol gydag 20 mlynedd a mwy o brofiad. Mae hefyd yn un o brif lunwyr grantiau y DU ar ôl dosbarthu bron i £90 miliwn i gymunedau lleol. Maen nhw'n gweinyddu arian ar ran Awdurdodau Lleol, datblygwyr adnewyddadwy a chwmnïau tirlenwi. Bydd GrantScape yn gweithio gyda phob cymuned i sefydlu eu cronfa leol ac yn cynnal proses ymgeisio am grant gwbl agored a thryloyw.