
Dyma'r diweddaraf am brosiect Estyniad Parc Grid Gwyrddach Abertawe
Y newyddion diweddaraf
Newyddion diweddaraf
Mae Statkraft, cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, wedi hysbysu trigolion lleol a chynrychiolwyr am gynlluniau wedi'u diweddaru ar gyfer estyniad i Barc Grid Gwyrddach Abertawe ar dir i'r dwyrain o is-orsaf Gogledd Abertawe, ger Treforys.
Rydym yn ymgynghori â’r gymuned cyn cyflwyno cais cynllunio, ac yn croesawu eich cwestiynau a’ch adborth. Mae hyn yn cynnwys arddangosfa gyhoeddus galw heibio yn Neuadd Eglwys Llangyfelach, 2 Heol-y-Geifr, Treforys, SA5 7JD ddydd Iau, 6 Mawrth 2025, o 3.30 pm - 7.30 pm.
Bydd arddangosfa rithwir hefyd yn rhedeg ar wefan y prosiect hwn o 6 Mawrth - 13 Mawrth, gyda'r un wybodaeth yn cael ei dangos yn ein harddangosfa galw heibio.
Yn unol â gofynion ymgynghori Cymru, mae ein dogfennau cais cynllunio drafft ar gael i'w gweld am 28 diwrnod cyn ein cyflwyno. Mae’r rhain ar gael ar wefan ein prosiect rhwng 17 Chwefror 2025 a 17 Mawrth 2025.
Mae Statkraft, cwmni cynhyrchu ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, wedi rhoi gwybod i drigolion lleol ac arweinwyr cymunedol am gynnig ar gyfer System Batris Storio Ynni (BESS) ym Mharc Grid Gwyrddach Abertawe.