
Estyniad Parc Grid Gwyrddach Abertawe
Croeso i'n gwefan bwrpasol ar gyfer ein cynigion i ymestyn Parc Grid Gwyrddach Abertawe ar dir i'r gorllewin o Ffordd Rhydypandy, Treforys.
Bydd y wefan hon yn cael ei diweddaru dros y cyfnod datblygu er mwyn rhoi diweddariadau i chi a chlywed eich barn.
Ynglŷn â Pharc Grid Gwyrddach Abertawe
Mae’r gwaith o adeiladu ein Parc Grid Gwyrddach yn mynd rhagddo, ac yn adeiladu peiriannau trydanol mawr gyda chwylolwynion (a elwir yn gydadferyddion cydamserol) a all ddisodli swyddogaeth tyrbinau troelli gorsafoedd pŵer traddodiadol heb allyrru unrhyw garbon deuocsid. Darllenwch fwy am ein datblygiad sydd wedi’i gydsynio.
Rydyn ni bellach yn cynnig ymestyn y Parc Grid Gwyrddach a fydd yn defnyddio technoleg wahanol, Systemau Storio Ynni Batri, sydd hefyd yn gweithio i ddarparu sefydlogrwydd i’r grid.
Pam mae angen Parciau Grid Gwyrddach?
Casgliad o adeiladau a thechnoleg di-garbon sy'n sefydlogi'r grid yw’r Parciau Grid Gwyrddach, ac maen nhw’n caniatáu i fwy o ynni adnewyddadwy gael ei drawsyrru drwy'r rhwydwaith. Nid ffermydd gwynt na solar ydyn nhw - mae'r adeiladau'n debyg i ysguboriau amaethyddol, unedau storio, neu gynwysyddion llongau.
Pan na all ynni adnewyddadwy fodloni'r galw am ynni ar y grid, bu'n rhaid i'r wlad oedi'r cyflenwad adnewyddadwy a thanio pŵer tanwydd ffosil sy'n gostus i ddefnyddwyr a'r amgylchedd.
Bydd y cynigion ar gyfer ymestyn yn defnyddio Systemau Storio Ynni Batri i ddarparu sefydlogrwydd i’r grid. Mae batris yn dal ac yn storio ynni i'w ddefnyddio yn y dyfodol. Maen nhw’n cynyddu faint o ynni adnewyddadwy y gall defnyddwyr ei ddefnyddio trwy ei storio a'i ryddhau pan fo'r galw yn uchel.
Project timeline
Articles
Tîm prosiect

Sarah Tullie
Project Manager

Kate Brown
Community Liaison Manager
Member of