Parc Grid Gwyrddach Abertawe
Ynglŷn â Pharc Grid Gwyrddach Abertawe
Mae'r prosiect arloesol hwn i'r gorllewin o Ffordd Rhydypandy, Treforys, a bydd yn helpu i sicrhau dim allyriadau carbon yng Nghymru drwy gynyddu sefydlogrwydd y grid trydan a chynyddu faint o ynni adnewyddadwy sy'n cael ei roi ar rwydwaith y grid. Ym mis Tachwedd 2022, dyfarnwyd contract i'r prosiect i ddarparu gwasanaethau sefydlogrwydd i Weithredwr System Drydan y Grid Cenedlaethol (NGESO).
Derbyniodd ein cais cynllunio gefnogaeth unfrydol gan Gyngor Abertawe ym mis Awst 2021. Yn ddiweddar rydym wedi ymgynghori ar gynigion diwygiedig i gais cynllunio Parc Grid Gwyrddach Abertawe.
Yn dilyn cymeradwyaeth, rydyn ni bellach wedi dechrau'r broses adeiladu. Bydd y gwaith hwn yn para tua 18 mis. Rydyn ni wedi cytuno ar Gynllun Rheoli Traffig Adeiladu gyda'r Cyngor a fydd yn arwain ein hymdrechion ac maen nhw i'w gweld yma.
Yn y cyfamser, gallwch gofrestru ar gyfer diweddariadau prosiect neu gofrestru’ch diddordeb i fod yn gyflenwr ar gyfer y prosiect.
Pam mae angen Parciau Grid Gwyrddach?
Prosiect arloesol i helpu i gyflawni dim allyriadau carbon.
Gall peiriannau trydanol mawr gyda chwylrodau (a elwir yn gydadferwyr cydamseredig) ddisodli tyrbinau troelli gorsaf bŵer draddodiadol ond heb allyrru unrhyw garbon deuocsid.
Nid fferm wynt neu fferm solar yw Parciau Grid Gwyrddach, ond mae rhai yn adeiladau tebyg i unedau storio neu gynwysyddion llongau. Byddai ein cynlluniau yn rhoi'r un sefydlogrwydd â gwaith tanwydd ffosil, ond mewn ffordd lân a gwyrdd.
Mae'n golygu y bydd system ynni Prydain Fawr yn gallu ymdrin â lefelau cynyddol o ynni adnewyddadwy heb ddibynnu ar dyrbinau sy'n llosgi glo a nwy.
Mae ein prosiectau'n hyrwyddo'r defnydd o dechnolegau adnewyddadwy ac yn lleihau'r angen i ddefnyddio gweithfeydd tanwydd ffosil.
Project timeline
Articles
Gallwch weld eich cwestiynau cyffredin yma
Os na allwch chi ddod o hyd i'ch cwestiwn/cwestiynau yma, gallwch chi eu nodi ar y ffurflen ar waelod y dudalen hon, a byddwn yn eich ateb cyn gynted â phosibl.
Read moreTîm prosiect
Learn more about Statkraft
What is a Greener Grid park?
Find out what a Greener Grid Park is.
Statkraft's history
A deep dive into the vast 125 years of history as Europe's largest renewable energy producer.
The history of Statkraft
A short animated video of the History of Statkraft