Dewch o hyd i'ch cwestiynau cyffredin yma
Os na allwch ddod o hyd i'r atebion yr ydych yn chwilio amdanynt, cyflwynwch eich cwestiwn gan ddefnyddio'r ffurflen ar waelod y dudalen a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.
Am y datblygwr
Statkraft yw cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, gyda 4,800 o weithwyr ar draws 19 o wledydd. Maent yn cynhyrchu 67 TWh o ynni adnewyddadwy ar draws ein holl weithrediadau.
Mae wedi gweithio ar brosiectau ynni adnewyddadwy yn y DU ers 1998, ac yn ddiweddar sefydlwyd eu pencadlys Cymreig yng Nghaerdydd. Mae ganddynt gyfanswm o 20 o brosiectau ar waith neu wrthi’n cael eu datblygu ledled y DU, gan gynnwys Fferm Wynt Alltwalis yn Sir Gaerfyrddin a Gwaith Ynni Dŵr Rheidol ger Aberystwyth.
Nod Statkraft yw bod yn ddatblygwr blaenllaw o hydrogen gwyrdd, gyda'r nod o gapasiti cynhyrchu o 2 GW erbyn 2030.
Am Hwb Ynni Gwyrdd Trecŵn
Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd. Ers hynny, mae targedau datgarboneiddio yng Nghymru wedi dod yn fwy uchelgeisiol fyth, gyda Llywodraeth Cymru yn addo sicrhau bod 70% o ynni’r genedl wedi'i gyflenwi o ffynonellau carbon isel erbyn 2030.
Er mwyn cyrraedd y targedau hyn, bydd angen cyflwyno ynni carbon isel ar draws pob diwydiant, a bydd hydrogen gwyrdd yn allweddol i ddatgarboneiddio’r sectorau trafnidiaeth, pŵer, gwres, amaethyddiaeth a diwydiannol. Dyna ble rydyn ni'n dod i mewn.
Bydd gan y safle gapasiti ar gyfer storio hyd at bedair tunnell o hydrogen, gan gyflenwi tanwydd glân i helpu i ddatgarboneiddio ynni, diwydiant a thrafnidiaeth ledled Sir Benfro.
Mae hen dir y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Nhrecŵn yn ddelfrydol ar gyfer cynhyrchu hydrogen. Mae gan y bynceri storio presennol y potensial i gael eu trosi i storio hydrogen yn ddiogel mewn symiau mawr, ac mae’r rheilffordd bresennol yn caniatáu mynediad trafnidiaeth uniongyrchol yn ôl ac ymlaen i'r safle. Yn safle tir llwyd sydd wedi bod allan o ddefnydd ers dros ddegawd, gall safle’r Hwb Ynni Gwyrdd ddarparu buddsoddiad a helpu i fod yn gatalydd ar gyfer adfywio’r safle ymhellach.
Mae’r safle ei hun mewn lleoliad delfrydol yn Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau ac mae hefyd yn agos at borthladd ynni mwyaf y DU ac yn Nheyrnas Ynni Aberdaugleddau, gan ei wneud yn berffaith wrth gyfrannu at y clystyrau ynni hyn ac wrth gydweithio â diwydiannau eraill. Mae galw eisoes am hydrogen yn Sir Benfro fel y dengys ymchwil a datblygiad diweddar ynghylch hydrogen yn yr ardal, a gall y tanwydd gwyrdd gyfrannu at dargedau datgarboneiddio’r Senedd a Chyngor Sir Penfro.
Gyda hydrogen gwyrdd, defnyddir ynni adnewyddadwy i bweru'r broses electroleiddio o dorri i lawr ddŵr (H2O) yn hydrogen (H2) ac ocsigen (O). Roedd dulliau cynhyrchu confensiynol yn defnyddio tanwyddau ffosil i echdynnu hydrogen, a elwir yn hydrogen llwyd.
Gallai'r pŵer a ddefnyddir yn y broses electroleiddio ddod yn uniongyrchol o ynni adnewyddadwy traddodiadol megis gwynt a solar, lle mae wedyn yn cael ei gludo i'r cwsmer. Mae'r opsiwn hwn yn lleihau'r angen am linellau pŵer. Fel arall, gall prosiectau adnewyddadwy penodol gyflenwi trydan glân trwy'r grid i bweru'r electroleiddio. Unwaith y caiff ei gynhyrchu, caiff yr hydrogen ei storio naill ai ar ffurf nwy neu hylif mewn tanciau dan wasgedd.
Mae Statkraft wedi sefydlu diwylliant diogelwch cryf diolch i'n hanes o weithio mewn lleoliadau risg uchel – adeiladu a gweithredu gweithfeydd trydan dŵr ac adeiladu ffermydd gwynt ledled y byd – rydym yn bwriadu gwneud yn siŵr bod y diwylliant hwn yn rhan o'n datblygiadau hydrogen hefyd. Gallwn dynnu ar brofiad diwydiannau cemegol ac alltraeth y DU, gyda'u profiad o ddylunio a datblygu cyfleusterau ar gyfer cynhyrchu a thrin nwyon, gan weithio o'r newydd i leihau peryglon a sicrhau'r diogelwch mwyaf posibl.
Fel diwydiant, mae cynhyrchwyr hydrogen yn ymwybodol y gall diffyg gwybodaeth gyhoeddus godi pryderon, felly mae diogelwch wedi bod yn hollbwysig wrth wneud penderfyniadau. Gellir gweld hyn drwy’r Cyngor Hydrogen, a sefydlwyd o dan strategaeth hydrogen y llywodraeth i edrych ar sut y mae materion aneconomaidd sy’n ymwneud â chynhyrchu hydrogen megys iechyd a diogelwch a materion amgylcheddol yn cael eu rheoleiddio.
Mae Statkraft yn gwmni blaenllaw ym marchnad hydrogen gwyrdd y DU, gyda nifer o brosiectau ar y gweill. Mae’r cwmni’n adeiladu ar brofiad o dros ganrif o gynhyrchu ynni adnewyddadwy, gyda’r nod o allu cynhyrchu 2 GW o hydrogen erbyn 2030.
Mae ein cwmni byd-eang wedi bod yn gweithio ar atebion hydrogen gwyrdd ers nifer o flynyddoedd, o longau wedi'u pweru gan hydrogen i gymunedau sy'n cael eu pweru gan hydrogen.
Gyda thîm arbenigol mewnol yn y DU a thu hwnt, a chyda phrosiectau gweithredu sy'n defnyddio technolegau tebyg, mae Statkraft mewn sefyllfa wych i fwrw ymlaen ag uchelgeisiau hydrogen y DU.
Wrth i'r prosiect ddatblygu, byddwn yn parhau i ddiweddaru a chynnwys y gymuned yn y broses trwy ddigwyddiadau cyhoeddus, cylchlythyrau a dulliau eraill o gyfathrebu.
Tanysgrifiwch i gael diweddariadau trwy'r ffurflen ar-lein a gadewch i ni wybod eich barn a'ch sylwadau drwy'r post, ffôn neu e-bost.
Post: FREEPOST Statkraft
E-bost: UKProjects@statkraft.com
Ffôn: 0800 772 0668
Ar y trywydd presennol, cynhelir yr ymgynghoriad statudol yn haf 2023, ac wedyn cyflwynir y cais DAC i PEDW yn hydref/gaeaf 2023. Os bydd y cais yn llwyddiannus, byddai'r gwaith adeiladu yn cymryd tua X mlynedd, felly gallai'r safle fod yn cynhyrchu hydrogen gwyrdd erbyn 2026.
Mae hydrogen yn ffynhonnell tanwydd hynod amlbwrpas, a gellir ei ddefnyddio ar draws ystod o ddiwydiannau. Gellir ei ddefnyddio'n danwydd ar gyfer trafnidiaeth, gwres, trydan, ac yn borthiant mewn prosesau diwydiannol.
Bu llawer o ymchwil a datblygiad a buddsoddiad mewn hydrogen yn danwydd ar gyfer trafnidiaeth, yn amrywio o fysiau hydrogen a threnau i gerbydau nwyddau trwm a chludiant pellter hir. Mae dwysedd storio hydrogen yn ei wneud yn berffaith ar gyfer datgarboneiddio cerbydau nwyddau trwm a chludiant pellter hir gan ei fod yn fwy effeithiol ar gyfer y teithiau hyn na batris trydan.
Gallwch danysgrifio i gael diweddariadau trwy'r ffurflen ar-lein.
Byddwn yn parhau i ddiweddaru a chynnwys y gymuned yn y broses wrth i'r prosiect ddatblygu drwy ddigwyddiadau cyhoeddus, cylchlythyrau a dulliau eraill o gyfathrebu.
Ystyriaethau amgylcheddol
Mae tîm o ymgynghorwyr arbenigol yn cynnal arolygon amgylcheddol i sefydlu gwaelodlin o'r ecoleg ac amodau adaryddol cyfredol y safle ac oddi amgylch. Disgwylir i adroddiad cwmpasu gael ei gyflwyno i PEDW ym mis Medi 2022.
Yn ystod 2022/23 byddwn yn cynnal arolygon ac asesiadau pellach ar ystod o ystyriaethau amgylcheddol – gan gynnwys ecoleg, sŵn, effaith weledol, llifogydd a chryndod cysgodion.
Cynhyrchir hydrogen gwyrdd yn gyfan gwbl o ffynonellau trydan adnewyddadwy, megis gwynt a solar, felly nid oes unrhyw allyriadau i greu'r tanwydd.
Electroleiddio yw'r broses a ddefnyddir i gynhyrchu hydrogen, sy'n hollti dŵr yn hydrogen ac ocsigen, felly ocsigen yw unig sgil-gynnyrch y broses. O ganlyniad, mae'r broses gynhyrchu hydrogen yn gwbl lân ac yn rhydd o allyriadau, gan greu tanwydd 100% gwyrdd i'w ddefnyddio ar draws diwydiannau.