Projects under development and construction

Gallwch weld eich cwestiynau cyffredin yma
Os na allwch chi ddod o hyd i'ch cwestiwn/cwestiynau yma, gallwch chi eu nodi ar y ffurflen ar waelod y dudalen hon, a byddwn yn eich ateb cyn gynted â phosibl.
Ynglŷn â'r datblygwr
Statkraft yw cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop. Rydyn ni wrth wraidd y newid yn ynni'r DU ac ers 2006, rydyn ni wedi datblygu profiad ar draws y sectorau gwynt, solar, dŵr, storio, sefydlogrwydd grid, gwefru EV a hydrogen gwyrdd.
Rydyn ni wedi buddsoddi £1.3 biliwn a mwy yn seilwaith ynni adnewyddadwy'r DU.
Rydyn ni'n cyflogi 280 a mwy o staff yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ac yn gwneud cyfraniad allweddol at helpu'r busnes byd-eang i gyflawni ei nod o ddatblygu 8GW o ynni gwynt a solar erbyn 2025.
Gallwch chi ddarllen mwy amdanom ni yma.
Ynglŷn â'r prosiect
Mae Parciau Grid Gwyrddach yn gyfleusterau sy'n cynnwys technolegau dim carbon sy'n sefydlogi'r grid, gan ganiatáu i fwy o ynni adnewyddadwy gael ei drosglwyddo drwy'r rhwydwaith. Mae cadw'r grid yn sefydlog yn golygu sicrhau bod lefel y trydan sy'n llifo drwy'r grid yn parhau’r un fath drwy'r amser.
Nid ffermydd gwynt neu ffermydd solar ydyn nhw, ond maen nhw'n gasgliad o adeiladau sy'n edrych yn debyg i ysguboriau, warysau a chynwysyddion llongau. Mae'r adeiladau hyn yn gartref i beiriannau mawr gyda chwylrodau mewnol i ddarparu sefydlogrwydd grid heb allyrru unrhyw garbon deuocsid.
Yn y pen draw, bydd y gwelliannau hyn yn cynyddu faint o ynni adnewyddadwy y gallwn ei ddefnyddio a lleihau ein biliau ynni.
Mae Gweithredwr Systemau Ynni'r Grid Cenedlaethol (NGESO) wedi nodi Gogledd Abertawe fel ardal sydd angen mwy o sefydlogrwydd grid, oherwydd faint o ynni adnewyddadwy sy'n cael ei gynhyrchu ledled y DU.
Yng Ngogledd Abertawe, mae'r ffaith bod yr is-orsaf NGESO newydd mor agos yn golygu y gellir osgoi ceblau trosglwyddo hir, ac mae'n sicrhau bod cysylltiad effeithlon â'r grid gydag ychydig iawn o aflonyddwch a chost.
Gaeaf 2023.
Rydyn ni'n dal i ymchwilio i opsiynau ar gyfer lliniaru gweledol oherwydd tirwedd unigryw'r safle. Byddwn yn ymgynghori'n agos â'r cyngor ynghylch yr angen i ddefnyddio dulliau lliniaru gweledol a pha fath o ddulliau.
Fel arfer mae Parc Grid Gwyrddach yn cynnwys ychydig o adeiladau wrth ymyl is-orsaf drydan sy'n bodoli eisoes. Pe baech chi'n mynd heibio, a doeddech chi ddim yn gwybod, mae'n debyg y byddech chi'n meddwl mai ysgubor, uned storio, neu gynhwysydd llongau ydoedd.
Oes. Mae ein Parc Grid Gwyrddach cyntaf yn gweithredu yn Keith, Moray. WRydyn ni bron â chwblhau ail Barc Grid Gwyrddach yn Lerpwl hefyd. Mae'r dechnoleg a ddefnyddir yn y prosiectau hyn yn gydadferwyr cydamseredig. Rydyn ni wedi ennill contractau gan Weithredwr Systemau Trydan y Grid Cenedlaethol ar gyfer dau brosiect batri hefyd sy'n ffurfio grid yn Coylton a Neilston yn Ne-orllewin yr Alban.
Mae gennym brosiectau tebyg yn Iwerddon hefyd.
Yn ystod y gwaith adeiladu, byddwn yn gweithio i gadw lefelau y sŵn a ddaw o'r safle mor isel â phosibl. Byddwn yn dilyn yr holl amodau a osodir gan y Cyngor ar weithgareddau adeiladu os yw ein cais yn llwyddiannus. Bydd y lefelau sŵn yn aros o dan y lefel sy'n cael ei nodi gan y cyngor yn y caniatâd cynllunio a dim ond o fewn yr oriau penodedig a ganiateir gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol y byddwn yn gweithio.
Bydd y cyfarpar, unwaith y bydd wedi'i osod ac yn weithredol, yn cael ei orchuddio â deunydd inswleiddio sŵn a bydd yn cael ei gadw mewn adeiladau gwanhau sŵn. Bydd y cyflenwr penodol a ddefnyddir yn cael ei ddewis unwaith y bydd caniatâd cynllunio wedi’i roi. Ar ôl i'r cyflenwyr technoleg gael eu dewis, ac unwaith y bydd y gwaith dylunio manwl wedi dechrau, bydd astudiaethau sŵn yn cael eu cynnal a'u darparu i'r cyngor. Ni fydd y datblygiad yn mynd y tu hwnt i derfynau sŵn a bennir gan y cyngor i atal effeithiau negyddol ar eiddo preswyl yn yr ardal.
Bydd lliw'r adeilad yn cael ei ddewis am ei allu i gydweddu ag adeilad presennol yr is-orsaf a byddem yn disgwyl iddo fod yn lliw mwsogl gwyrdd ond byddwn yn gofyn am ragor o fewnbwn gan y Cyngor ar y pwnc hwn.
Rydyn ni'n rhagweld y bydd y cyfnod adeiladu’n para tua 12 - 18 mis.
Byddem yn falch o roi'r newyddion diweddaraf i chi. Gallwch chi gofrestru ar y wefan hon er mwyn sicrhau eich bod chi’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf, neu defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni i roi eich cyfeiriad post i ni.
Ystyriaethau amgylcheddol
Mae gwarchod bioamrywiaeth a bywyd gwyllt ar y safle’n brif flaenoriaeth i Statkraft, a dyna pam rydyn ni'n ymrwymo i ddarparu gwelliannau ecolegol er mwyn cael enillion bioamrywiaeth net o 10% o leiaf i'r safle.
Rydyn ni'n dal i ymgynghori â Chyngor Abertawe ynghylch sut gallwn wella bioamrywiaeth ar y safle a bydd ein cynlluniau ar gyfer hyn yn cael eu cynnwys yn y cais cynllunio.
Bydd asesiad effaith draenio a fydd yn cynnwys darparu mesurau draenio cynaliadwy, yn cyd-fynd â'r cais cynllunio.
Diogelwch a thraffig
Unwaith y bydd y cyfleuster wedi'i adeiladu, ychydig iawn o deithiau cerbyd fydd i'r safle pan fydd y datblygiad yn weithredol gan y bydd y safle’n un di-griw. Bydd ymweliadau achlysurol ar gyfer cynnal a chadw ac archwilio'r cyfleuster, felly ni fydd effaith amlwg ar lif traffig yn yr ardal.
Bydd cais cynllunio yn y dyfodol yn cynnwys asesiadau manwl o draffig adeiladu a llwybrau mynediad, a bydd mesurau'n cael eu rhoi ar waith i leihau'r effeithiau ar drigolion lleol. Gall y rhain gynnwys amserlennu unrhyw ddanfoniadau’n ofalus, a allai gynnwys trefnu i gerbydau â llwythi anghyffredin gyrraedd yn y nos, amseru danfoniadau cerbydau HGV a chytuno â'r cyngor ynglŷn ag unrhyw gyfyngiadau a dewis y llwybrau mynediad adeiladu mwyaf addas. Byddai manylion mynediad adeiladu’n cael eu sicrhau mewn Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu gorfodadwy.
Bydd y safle'n cael ei ffensio gan ddefnyddio ffensys diogelwch uchel er mwyn sicrhau diogelwch i'r cyhoedd.
Na, bydd y goleuadau’n synhwyro symudiadau ac ni fydd y safle wedi'i oleuo yn barhaus i atal llygredd golau. Unwaith y bydd y safle'n weithredol, mae disgwyl i dechnegydd gwasanaeth ymweld â'r safle ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol yn unig.
Argyfyngau
Diogelwch yw ein blaenoriaeth gyntaf, a dyna pam mae yna reolyddion wedi'u gosod ar bob un o'n safleoedd sy'n monitro'r safle 24/7 ac sy'n gallu cau'r system o bell. Bydd mesurau brys llym ar waith, sydd wedi'u hamlinellu yn y cynllun argyfwng a gynhyrchir cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau. Yn ogystal, bydd gennym Uwch Bersonau Awdurdodedig (SAP) gyda chymhwysedd digonol a fydd yn gyfrifol am y safle. Byddwn yn cyflogi cwmni diogelwch lleol ymateb i larymau diogelwch o fewn terfyn amser penodol hefyd.
Bydd Statkraft yn gweithredu gweithdrefnau a chynlluniau ar gyfer sefyllfaoedd brys a bydd yn cynnal ymarferion parodrwydd brys rheolaidd er mwyn sicrhau bod holl bersonél y sefydliad, gan gynnwys unrhyw drydydd parti, yn ymwybodol o sut i weithredu ac ymateb os bydd unrhyw sefyllfaoedd sydd heb eu cynllunio yn digwydd. Bydd cytundebau'n cael eu gwneud, a bydd cydweithredu'n cael ei sefydlu â gwasanaethau brys lleol ar gyfer hyfforddiant ac ymarferion er mwyn diogelu personél, trydydd partïon, amgylchedd ac eiddo'r cwmni.
Dyma rai enghreifftiau o fesurau y byddem yn eu cymryd:
1. Gwahanu newidyddion oddi wrth strwythurau cyfagos ac oddi wrth ei gilydd.
2. Rhwystrau gwrthiant (wal dân), gwahanu gofodol, a darparu lloc.
3. Gwahanu gofodol rhwng y newidydd a'r adeilad digolledu cydamserol neu wal flaen yr adeilad.
4. Cyfarpar canfod tân, nwy a mwg awtomatig (seiliedig ar baladr) yn yr adeiladau.
5. System awtomatig llethu tân (e.e. chwistrellwyr dŵr a / neu system sy'n defnyddio nwy) yn yr adeiladau.
6. Defnyddio deunyddiau/llociau anhylosg sy'n gwrthsefyll tân o amgylch y cydrannau.
7. Rheoli tymheredd y cydrannau o bell 24/7.
Bydd manylion mesurau diogelwch tân yn cael eu cynnwys yn y datganiad cynllunio a bydd rhagor o fanylion yn yr adroddiad strategaeth diogelwch tân gyda mewnbwn yr holl gyflenwyr a thîm gweithrediadau Statkraft.
Buddion
Bydd y prosiect hwn, os caiff ei adeiladu, yn helpu'r DU i symud tuag at ei dargedau dim allyriadau carbon drwy gynyddu sefydlogrwydd y grid trydan gyda thechnoleg Digolledu Cydamserol. Bydd yn dod â gostyngiad ym mhrisiau ynni a gwariant gan y Grid Cenedlaethol ar gyfyngiadau hefyd.
Os caiff ganiatâd, bydd Parc Grid Gwyrddach Abertawe yn elwa o Gronfa Budd Cymunedol gwerth £20,000 y flwyddyn o ddechrau'r gwaith adeiladu gydol oes y prosiect. Ein budd cymunedol yw'r cyntaf o'i fath ar gyfer prosiectau grid.
Byddai'r gronfa budd cymunedol o £20,000 y flwyddyn ar waith cyhyd ag yr oedd y Parc Grid Gwyrddach yn weithredol. Bydd y gronfa hon yn cael ei gweinyddu gan drydydd parti annibynnol, a byddai'n cwmpasu maes o fudd sydd wedi'i gytuno â phobl leol.
Bydd. Mae gennym ddolen gofrestru ar gyfer cyflenwyr lleol ar y wefan felly cofiwch ei chwblhau os ydych chi'n fusnes lleol ac â diddordeb yn y prosiect, neu os hoffech argymell un.
Byddwn ni'n cydweithio â grwpiau fel y Siambr Fasnach i sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl i gyflenwyr lleol.