Gallwch weld eich cwestiynau cyffredin yma
Os na allwch chi ddod o hyd i'ch cwestiwn/cwestiynau yma, gallwch chi eu nodi ar y ffurflen ar waelod y dudalen hon, a byddwn yn eich ateb cyn gynted â phosibl.
Ynglŷn â'r datblygwr
Statkraft yw cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop. Rydyn ni wrth wraidd y newid yn ynni'r DU ac ers 2006, rydyn ni wedi datblygu profiad ar draws y sectorau gwynt, solar, dŵr, storio, sefydlogrwydd grid, gwefru EV a hydrogen gwyrdd.
Rydyn ni wedi buddsoddi £1.3 biliwn a mwy yn seilwaith ynni adnewyddadwy'r DU.
Rydyn ni'n cyflogi 280 a mwy o staff yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ac yn gwneud cyfraniad allweddol at helpu'r busnes byd-eang i gyflawni ei nod o ddatblygu 8GW o ynni gwynt a solar erbyn 2025.
Gallwch chi ddarllen mwy amdanom ni yma.
Ynglŷn â'r prosiect
Mae Parciau Grid Gwyrddach yn gyfleusterau sy'n cynnwys technolegau dim carbon sy'n sefydlogi'r grid, gan ganiatáu i fwy o ynni adnewyddadwy gael ei drosglwyddo drwy'r rhwydwaith. Mae cadw'r grid yn sefydlog yn golygu sicrhau bod lefel y trydan sy'n llifo drwy'r grid yn parhau’r un fath drwy'r amser.
Nid ffermydd gwynt neu ffermydd solar ydyn nhw, ond maen nhw'n gasgliad o adeiladau sy'n edrych yn debyg i ysguboriau, warysau a chynwysyddion llongau. Mae'r adeiladau hyn yn gartref i beiriannau mawr gyda chwylrodau mewnol i ddarparu sefydlogrwydd grid heb allyrru unrhyw garbon deuocsid.
Yn y pen draw, bydd y gwelliannau hyn yn cynyddu faint o ynni adnewyddadwy y gallwn ei ddefnyddio a lleihau ein biliau ynni.
Mae Gweithredwr Systemau Ynni'r Grid Cenedlaethol (NGESO) wedi nodi Gogledd Abertawe fel ardal sydd angen mwy o sefydlogrwydd grid, oherwydd faint o ynni adnewyddadwy sy'n cael ei gynhyrchu ledled y DU.
Yng Ngogledd Abertawe, mae'r ffaith bod yr is-orsaf NGESO newydd mor agos yn golygu y gellir osgoi ceblau trosglwyddo hir, ac mae'n sicrhau bod cysylltiad effeithlon â'r grid gydag ychydig iawn o aflonyddwch a chost.
Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Awst 2024 ac mae disgwyl iddo bara tua 18 mis. Yn ystod y cyfnod hwn bydd cyfleoedd i fusnesau lleol gymryd rhan.
Byddwn yn sicrhau bod effeithiau gweledol y safle yn cael eu lliniaru gymaint â phosibl trwy ddefnyddio lliwiau nad ydyn nhw’n amharu ar y dirwedd leol ar gyfer unrhyw adeiladau neu sgriniau newydd.
Fel arfer mae Parc Grid Gwyrddach yn cynnwys ychydig o adeiladau wrth ymyl is-orsaf drydan sy'n bodoli eisoes. Pe baech chi'n mynd heibio, a doeddech chi ddim yn gwybod, mae'n debyg y byddech chi'n meddwl mai ysgubor, uned storio, neu gynhwysydd llongau ydoedd.
Oes. Mae ein Parc Grid Gwyrddach cyntaf yn gweithredu yn Keith, Moray. WRydyn ni bron â chwblhau ail Barc Grid Gwyrddach yn Lerpwl hefyd. Mae'r dechnoleg a ddefnyddir yn y prosiectau hyn yn gydadferwyr cydamseredig. Rydyn ni wedi ennill contractau gan Weithredwr Systemau Trydan y Grid Cenedlaethol ar gyfer dau brosiect batri hefyd sy'n ffurfio grid yn Coylton a Neilston yn Ne-orllewin yr Alban.
Mae gennym brosiectau tebyg yn Iwerddon hefyd.
Yn ystod y gwaith adeiladu, byddwn yn gweithio i gadw lefelau y sŵn a ddaw o'r safle mor isel â phosibl. Byddwn yn dilyn yr holl amodau a osodir gan y Cyngor ar weithgareddau adeiladu os yw ein cais yn llwyddiannus. Bydd y lefelau sŵn yn aros o dan y lefel sy'n cael ei nodi gan y cyngor yn y caniatâd cynllunio a dim ond o fewn yr oriau penodedig a ganiateir gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol y byddwn yn gweithio.
Bydd y cyfarpar, unwaith y bydd wedi'i osod ac yn weithredol, yn cael ei orchuddio â deunydd inswleiddio sŵn a bydd yn cael ei gadw mewn adeiladau gwanhau sŵn. Bydd y cyflenwr penodol a ddefnyddir yn cael ei ddewis unwaith y bydd caniatâd cynllunio wedi’i roi. Ar ôl i'r cyflenwyr technoleg gael eu dewis, ac unwaith y bydd y gwaith dylunio manwl wedi dechrau, bydd astudiaethau sŵn yn cael eu cynnal a'u darparu i'r cyngor. Ni fydd y datblygiad yn mynd y tu hwnt i derfynau sŵn a bennir gan y cyngor i atal effeithiau negyddol ar eiddo preswyl yn yr ardal.
Mae lliw'r adeilad wedi'i ddewis ar sail ei allu i asio â'r is-orsaf bresennol gydag edrychiad gwyrdd mwsogl.
Rydyn ni'n rhagweld y bydd y cyfnod adeiladu’n para tua 12 - 18 mis.
Byddem yn falch o roi'r newyddion diweddaraf i chi. Gallwch chi gofrestru ar y wefan hon er mwyn sicrhau eich bod chi’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf, neu defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni i roi eich cyfeiriad post i ni.
Ystyriaethau amgylcheddol
Bydd y prosiect hwn yn helpu'r DU i symud tuag at ei thargedau allyriadau di-garbon trwy gynyddu sefydlogrwydd y grid trydan a fydd yn cefnogi gostyngiad mewn prisiau ynni a gwariant gan y Grid Cenedlaethol ar gyfyngiadau.
Roedd asesiad o'r effaith ar ddraenio yn cyd-fynd â'r cais cynllunio. Mae’r asesiad yn nodi sut y byddwn yn sicrhau nad oes unrhyw effeithiau llifogydd negyddol.
Diogelwch a thraffig
Unwaith y bydd y cyfleuster wedi'i adeiladu, ychydig iawn o deithiau cerbyd fydd i'r safle pan fydd y datblygiad yn weithredol gan y bydd y safle’n un di-griw. Bydd ymweliadau achlysurol ar gyfer cynnal a chadw ac archwilio'r cyfleuster, felly ni fydd effaith amlwg ar lif traffig yn yr ardal.
Bydd ein llwybr mynediad adeiladu newydd yn defnyddio mynediad fferm presennol ac yn osgoi ardaloedd preswyl yn bennaf. Bydd hyn yn lleihau'r effeithiau ar drigolion lleol, ynghyd â dulliau megis amserlen dosbarthu nwyddau drefnus fel y nodir yn ein Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu.
Bydd y safle'n cael ei ffensio gan ddefnyddio ffensys diogelwch uchel er mwyn sicrhau diogelwch i'r cyhoedd.
Na, bydd y goleuadau’n synhwyro symudiadau ac ni fydd y safle wedi'i oleuo yn barhaus i atal llygredd golau. Unwaith y bydd y safle'n weithredol, mae disgwyl i dechnegydd gwasanaeth ymweld â'r safle ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol yn unig.
Argyfyngau
Diogelwch yw ein blaenoriaeth gyntaf, a dyna pam mae yna reolyddion wedi'u gosod ar bob un o'n safleoedd sy'n monitro'r safle 24/7 ac sy'n gallu cau'r system o bell. Bydd mesurau brys llym ar waith, sydd wedi'u hamlinellu yn y cynllun argyfwng a gynhyrchir cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau. Yn ogystal, bydd gennym Uwch Bersonau Awdurdodedig (SAP) gyda chymhwysedd digonol a fydd yn gyfrifol am y safle. Byddwn yn cyflogi cwmni diogelwch lleol ymateb i larymau diogelwch o fewn terfyn amser penodol hefyd.
Bydd Statkraft yn gweithredu gweithdrefnau a chynlluniau ar gyfer sefyllfaoedd brys a bydd yn cynnal ymarferion parodrwydd brys rheolaidd er mwyn sicrhau bod holl bersonél y sefydliad, gan gynnwys unrhyw drydydd parti, yn ymwybodol o sut i weithredu ac ymateb os bydd unrhyw sefyllfaoedd sydd heb eu cynllunio yn digwydd. Bydd cytundebau'n cael eu gwneud, a bydd cydweithredu'n cael ei sefydlu â gwasanaethau brys lleol ar gyfer hyfforddiant ac ymarferion er mwyn diogelu personél, trydydd partïon, amgylchedd ac eiddo'r cwmni.
Dyma rai enghreifftiau o fesurau y byddem yn eu cymryd:
1. Gwahanu newidyddion oddi wrth strwythurau cyfagos ac oddi wrth ei gilydd.
2. Rhwystrau gwrthiant (wal dân), gwahanu gofodol, a darparu lloc.
3. Gwahanu gofodol rhwng y newidydd a'r adeilad digolledu cydamserol neu wal flaen yr adeilad.
4. Cyfarpar canfod tân, nwy a mwg awtomatig (seiliedig ar baladr) yn yr adeiladau.
5. System awtomatig llethu tân (e.e. chwistrellwyr dŵr a / neu system sy'n defnyddio nwy) yn yr adeiladau.
6. Defnyddio deunyddiau/llociau anhylosg sy'n gwrthsefyll tân o amgylch y cydrannau.
7. Rheoli tymheredd y cydrannau o bell 24/7.
Bydd manylion mesurau diogelwch tân yn cael eu cynnwys yn y datganiad cynllunio a bydd rhagor o fanylion yn yr adroddiad strategaeth diogelwch tân gyda mewnbwn yr holl gyflenwyr a thîm gweithrediadau Statkraft.
Buddion
Bydd y prosiect hwn, os caiff ei adeiladu, yn helpu'r DU i symud tuag at ei dargedau dim allyriadau carbon drwy gynyddu sefydlogrwydd y grid trydan gyda thechnoleg Digolledu Cydamserol. Bydd yn dod â gostyngiad ym mhrisiau ynni a gwariant gan y Grid Cenedlaethol ar gyfyngiadau hefyd.
Bydd Parc Grid Gwyrddach Abertawe yn elwa ar Gronfa Budd Cymunedol o £20,000 y flwyddyn o ddechrau'r gwaith adeiladu gydol oes y prosiect. Ein budd cymunedol yw'r cyntaf o'i fath ar gyfer prosiectau grid.
Byddai'r gronfa budd cymunedol o £20,000 y flwyddyn ar waith cyhyd ag yr oedd y Parc Grid Gwyrddach yn weithredol. Bydd y gronfa hon yn cael ei gweinyddu gan drydydd parti annibynnol, a byddai'n cwmpasu maes o fudd sydd wedi'i gytuno â phobl leol.
Bydd. Mae gennym ddolen gofrestru ar gyfer cyflenwyr lleol ar y wefan felly cofiwch ei chwblhau os ydych chi'n fusnes lleol ac â diddordeb yn y prosiect, neu os hoffech argymell un.
Byddwn ni'n cydweithio â grwpiau fel y Siambr Fasnach i sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl i gyflenwyr lleol.