Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am y Prosiect
Y newyddion diweddaraf
Newyddion diweddaraf
Mae Statkraft wedi dechrau adeiladu ym Mharc Grid Gwyrddach Abertawe.
Bydd Parc Grid Gwyrddach Abertawe yn helpu i gyflawni allyriadau carbon sero yng Nghymru trwy gynyddu sefydlogrwydd y grid trydan a faint o ynni adnewyddadwy sy'n cael ei gyflenwi i'r rhwydwaith grid.
Bydd y prosiect yn darparu gwasanaeth hanfodol i sefydlogi'r grid pŵer, ac yn caniatáu i fwy o ynni adnewyddadwy gael ei drosglwyddo drwy'r rhwydwaith, heb ddibynnu ar orsafoedd pŵer glo a nwy. Mae hyn yn golygu llai o allyriadau niweidiol, a biliau is i ddefnyddwyr, gan fod ynni adnewyddadwy yn rhatach. Cafodd y cynlluniau terfynol gefnogaeth unfrydol Cyngor Abertawe ym mis Gorffennaf 2023.
Rydyn ni’n cymryd camau amrywiol i leihau tarfu ar ffyrdd lleol yn ystod y gwaith adeiladu, gan gynnwys gwiriadau cyflymder ar ein holl gerbydau a threfniadau i lanhau cerbydau yn rheolaidd.
Byddwn yn darparu diweddariadau rheolaidd ar gynnydd y gwaith adeiladu ar y wefan hon. Cysylltwch â ni i adael sylw yn ukprojects@statkraft.com neu ffoniwch 0800 772 0668 os hoffech gael rhagor o wybodaeth.
Mae Statkraft bellach wedi cyflwyno cais cynllunio CYF: 2023/0889/FUL i Gyngor Abertawe ar gyfer Parc Grid Gwyrddach newydd ar dir i'r gorllewin o Ffordd Rhydypandy, Treforys.
Mae ein cynlluniau wedi cael eu llywio gan adborth a ddaeth yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd gennym gyda’r gymuned leol cyn cyflwyno’r cais.
Gallwch weld y cais cynllunio llawn drwy Gyngor Abertawe yma.
Cysylltwch â ni yma os hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf am y prosiect.
Mae Statkraft yn ddiolchgar i bawb o'r gymuned leol a fynychodd y digwyddiad ymgynghori cyhoeddus ar gyfer Parc Grid Gwyrddach Abertawe, a gynhaliwyd ar 16 Chwefror yng Nghlwb Rygbi Treforys.
Yn y digwyddiad, roedd trigolion a chynrychiolwyr etholedig yn gallu gweld y cynigion, gofyn cwestiynau, a rhoi eu hadborth. Dyw hi ddim yn rhy hwyr i gymryd rhan - gallwch weld y deunyddiau arddangos yma a rhannu’ch syniadau ar y wefan hon.
Byddwn yn ystyried yr holl adborth a gafwyd yn ofalus ac yn nodi sut rydym wedi ymateb i'r sylwadau a gawsom wrth gyflwyno cais cynllunio.
Mae Statkraft, cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, wedi rhoi gwybod i drigolion lleol ac arweinwyr cymunedol am gynlluniau wedi'u diweddaru ar gyfer Parc Grid Gwyrddach newydd ar dir i'r dwyrain o is-orsaf Gogledd Abertawe, ger Treforys.
Rydym ni’n ymgynghori â'r gymuned cyn cyflwyno cais cynllunio diwygiedig, ac yn croesawu’ch cwestiynau a'ch adborth. Rydych wedi’ch gwahodd i'n harddangosfa gyhoeddus agored yng Nghlwb Rygbi Treforys, Heol Gwernen, Cwmrhydyceirw, Abertawe SA6 6JS ar ddydd Iau 16 Chwefror, 2023, rhwng 3.30pm a 7.30pm.
Bydd arddangosfa rithiol hefyd yn cael ei chynnal ar wefan ein prosiect: www.statkraft.co.uk/swansea, rhwng 16 Chwefror a 23 Chwefror, gyda'r un wybodaeth a chyfle i ofyn cwestiynau fel ag yn yr arddangosfa galw heibio.
Mae copi o'r gwahoddiad i'w weld yma.
Yn 2021, derbyniodd Statkraft gymeradwyaeth unfrydol gan Gyngor Abertawe ar gyfer ein Cais Cynllunio. Wedi hynny, dyfarnwyd contract i Statkraft i ddarparu gwasanaethau sefydlogrwydd i Weithredwr System Drydan y Grid Cenedlaethol (NGESO) yng Ngogledd Abertawe.
Mae Seb Woodward, Rheolwr Prosiect ar gyfer Parc Grid Gwyrddach Abertawe yn egluro. "Mae gofynion y contract hwn wedi arwain at yr angen am newidiadau i'r datblygiad arfaethedig. Caiff y newidiadau hyn eu cyflawni orau drwy gyflwyno Cais Cynllunio newydd. Ar hyn o bryd, mae Statkraft yn paratoi cais newydd sy'n bodloni gofynion NGESO ac yn manteisio i'r eithaf ar fuddion y prosiect."
Rydyn ni'n falch iawn bod ein cynigion ar gyfer Parc Grid Gwyrddach Abertawe, a gafodd ganiatâd cynllunio unfrydol gan Gyngor Abertawe ym mis Awst 2021, wedi ennill contract i ddarparu gwasanaethau sefydlogrwydd i Weithredwr System Drydan y Grid Cenedlaethol (NGESO).
This pioneering project is already set to help achieve zero carbon emissions in Wales.
Mae'r prosiect arloesol hwn yn barod i helpu i gyflawni dim allyriadau carbon yng Nghymru. Rydyn ni’n paratoi cynlluniau diwygiedig erbyn hyn er mwyn sicrhau bod y Parc Grid Gwyrddach yn sicrhau’r budd mwyaf i rwydwaith y grid ac yn diwallu anghenion NGESO. Rydyn ni'n ymgynghori â'r gymuned ar y cynlluniau diwygiedig a byddem yn croesawu eich cwestiynau a'ch adborth cyn i ni gyflwyno ein cynigion diwygiedig i Gyngor Abertawe.
Yr wythnos ddiwethaf, daeth Statkraft gam yn nes at ddatblygu Parc Grid Gwyrddach yn Abertawe pan gafodd gymeradwyaeth unfrydol gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Abertawe.
Mae hon yn garreg filltir fawr i'r prosiect, sy'n dal i orfod mynd drwy'r broses dendro gyda'r Grid Cenedlaethol a nifer o gamau eraill cyn cyrraedd y cam adeiladu. I gael rhagor o wybodaeth am Barc Grid Gwyrddach Abertawe a'r camau nesaf, cliciwch yma. Mae dogfennau’r cais cynllunio ar gael ar wefan Cyngor Abertawe.
Diolch i'r holl breswylwyr a'r grwpiau sydd â diddordeb a roddodd o’u hamser i ymgysylltu â'n hymgynghoriad ynglŷn â'n cais cynllunio ar gyfer Parc Grid Gwyrddach
Gogledd Abertawe. Rydyn ni'n gwerthfawrogi eich holl adborth a'ch holl gwestiynau am y prosiect, a lle gallwn, byddwn yn eu hymgorffori yn y prosiect.
Cafodd ein cais cynllunio ei gyflwyno i Gyngor Abertawe ym mis Ionawr 2021. Rydyn ni'n disgwyl i'r prosiect fynd i'r Pwyllgor Cynllunio ar 3 Awst.
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych chi ragor o gwestiynau am y prosiect, byddem yn hapus i glywed gennych.
Rydyn ni'n falch o gyhoeddi bod cynlluniau ar gyfer Parc Grid Gwyrddach arfaethedig wedi cael eu cyflwyno i Gyngor Abertawe.
Bydd y prosiect, a fydd i'r dwyrain o Is-orsaf Grid Cenedlaethol Gogledd Abertawe, yn helpu i ddatgarboneiddio sector ynni'r DU drwy ganiatáu i'r grid fabwysiadu ynni adnewyddadwy’n well a darparu dewis amgen allyriadau isel i reoleiddio drwy eneradur traddodiadol. Mae'r cynnig yn cynnwys adeilad ar gyfer system rheoli ynni a 12 uned storio batri mewn cynwysyddion, gyda seilwaith cysylltiedig a thrac mynediad estynedig.
Mae'r datblygiad yn cynnwys cynllun tirwedd gan blannu coetir i guddio’r adeilad a gwella gwerth bioamrywiaeth y safle. Mae'r cais i'w weld ar Wefan Cyngor Abertawe ac mae'n cynnwys set lawn o ddarluniau cynllunio, datganiad cynllunio, dylunio a mynediad ac adroddiadau technegol.
Os yw'r prosiect yn cael caniatâd, ein bwriad yw cydweithio â chyrff masnach a grwpiau busnes eraill er mwyn sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl i gyflenwyr lleol. Anogir cyflenwyr lleol sydd â diddordeb i gofrestru eu galluoedd ar y gofrestr Cyflenwyr Lleol.
Fel darparwr ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, mae Statkraft ar y blaen o ran darparu prosiectau newydd, arloesol sy'n darparu inertia (sefydlogrwydd) i'r grid. Dyfarnodd Grid Cenedlaethol ESO bedwar cytundeb sefydlogrwydd i Statkraft ym mis Ionawr 2020 ar gyfer dau brosiect yn Lister Drive, Lerpwl a dau yn Keith yn yr Alban. Mae Keith ar ben ffordd i gyfrannu cyflenwad o ynni adnewyddadwy i'r grid erbyn diwedd 2021.
Gallwch chi weld dogfennau'r cais cynllunio yn www.abertawe.gov.uk.
Rydyn ni'n eich annog i gysylltu â ni os hoffech gael gwybodaeth am unrhyw agwedd ar y prosiect.
Rydym yn falch iawn bod ein cynlluniau diwygiedig ar gyfer Parc Grid Gwyrddach newydd wedi cael eu cymeradwyo gan Gyngor Abertawe.
Bydd y prosiect arloesol hwn yn helpu i gyflawni allyriadau di-garbon yng Nghymru trwy gynyddu sefydlogrwydd y grid trydan a faint o ynni adnewyddadwy y gellir ei gyflenwi i'r rhwydwaith grid.
Hoffem ddiolch i bawb a fu'n cydweithio â ni drwy gydol y broses gynllunio ac a roddodd adborth.