Diweddariadau prosiect
Dyma'r diweddariadau prosiect diweddaraf ar gyfer Fferm Solar Alleston.
Y newyddion diweddaraf
Mae Statkraft yn lansio ei ymgynghoriad statudol ar gynigion manwl ar gyfer Fferm Solar Alleston, a leolir rhwng Penfro a Llandyfái, yn Sir Benfro. Mae'r cynlluniau'n dilyn astudiaethau amgylcheddol helaeth ac adborth a dderbyniwyd yn ystod ymgysylltu cynnar a gynhaliwyd y llynedd.
Ceir rhagor o wybodaeth am y cynigion ar wefan y prosiect a bydd aelodau o dîm y prosiect ar gael i drafod y prosiect yn nigwyddiadau'r ymgynghoriad:
- 1pm tan 6pm ddydd Mawrth 22 Hydref 2024 yn Neuadd y Dref Penfro, Stryd Fawr (SA71 4JS).
- 12pm i 4.30pm ddydd Mercher 23 Hydref 2024 yn Neuadd Bentref Llandyfái (SA71 5PB).
Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw hanner nos, dydd Mawrth 19 Tachwedd 2024.
Yn dilyn yr ymgynghoriad statudol, bydd y cynigion yn cael eu cwblhau, a bydd cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) yn cael ei gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) i'w archwilio cyn cael ei benderfynu gan Weinidogion Llywodraeth Cymru.
Mae Statkraft wedi cadarnhau heddiw bod PEDW wedi darparu’r Cyfarwyddyd Cwmpasu ar gyfer Fferm Solar Alleston.
Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r arolygon a gwaith arall y mae'n rhaid ei wneud yn rhan o'r cais cynllunio ar gyfer y prosiect. Mae’r cyfarwyddyd cwmpasu llawn ar gael ar wefan PEDW (Cyf. DNS CAS-03072-D7X6N7) ac o adran Dogfennau'r Prosiect ar dudalen we'r prosiect.
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Caerhirfryn yn dangos y gall ffermydd solar y DU gynnal poblogaethau gwenyn a gloÿnnod byw.
Mae ymchwil newydd, a arweiniwyd gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Caerhirfryn ac mewn cydweithrediad â Phrifysgol Reading, wedi’i chyhoeddi yn y cyfnodolyn Ecological Solutions and Evidence sy’n dangos y gall lleoliad ffermydd solar, ynghyd â phlannu ar safleoedd solar fod o fudd i bryfed peillio ledled y DU.
Amlygodd yr ymchwil sut mae plannu cynyddol o amgylch ffermydd solar yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi pryfed yn y tirweddau cyfagos sydd fel arall â llai o nodweddion megis perthi.
Diolch i bawb a fynychodd ein digwyddiadau ymgynghori personol ar 29 a 30 Tachwedd 2023! Bydd eich adborth yn ein helpu i ddatblygu prosiect gwell ac edrychwn ymlaen at ymateb i'r gymuned.
Mae aelodau o dîm prosiect Fferm Solar Alleston wedi mynychu cyfarfod â'r Cynghorydd Mel Philips o Gyngor Sir Penfro i drafod Fferm Solar arfaethedig Alleston ger Penfro.
Rhoddodd y cyfarfod adborth gwerthfawr i dîm y prosiect cyn ymgysylltu â'r cyhoedd yn ddiweddarach y mis hwn. Bydd yr adborth, ynghyd ag adborth o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd yn ddiweddarach y mis hwn, yn helpu tîm y prosiect i lunio’r cynnig i anghenion a dymuniadau trigolion lleol.
Rydym yn eich gwahodd i fynychu ein digwyddiadau ymgynghori ar gyfer Fferm Solar Alleston yn bersonol ar 29 a 30 Tachwedd 2023. Bydd y trafodaethau hyn yn helpu i lunio'r cynlluniau a gwneud yn fawr o'r cyfleoedd ar gyfer buddion y gall y prosiect eu cyflwyno.
Mae Statkraft wedi cymryd y camau cyntaf tuag at ganiatáu gwaith ynni solar newydd yn ne-orllewin Cymru.
Mae Cais Cwmpasu, sy’n dechrau’r broses o gytuno ar yr arolygon amgylcheddol angenrheidiol, safbwyntiau gweledol a data allweddol eraill y mae’n rhaid eu cyflwyno yn rhan o gais cynllunio wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Os rhoddir caniatâd, bydd Fferm Solar arfaethedig Alleston yn gweld hyd at 40MW o baneli solar yn cael eu gosod i'r dwyrain o Benfro.
Mae Statkraft, cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, yn bwrw ymlaen â chynigion ar gyfer datblygiad solar newydd yn Sir Benfro.