Fferm Solar Alleston
Hyd at 49MW o gapasiti amcangyfrifedig
Mae'r wefan hon wedi'i chreu i ddarparu gwybodaeth am ein cynigion sy'n dod i'r amlwg ac i alluogi pobl i gysylltu â ni gyda chwestiynau ac adborth.
Bydd y wefan hon yn cael ei diweddaru wrth i’r prosiect ddatblygu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ac i glywed eich barn a’ch syniadau.
Cliciwch am y dudalen hon yn Gymraeg / Cliciwch ar gyfer y dudalen hon yn Gymraeg
Ynglŷn â Fferm Solar Alleston
Rydym yn datblygu cynigion ar gyfer fferm solar ar tua 100ha (247 erw) o dir amaethyddol rhwng Llandyfái a Phenfro, yn agos at reilffordd Doc Penfro-Caerfyrddin.
Mae ynni solar yn dechnoleg hanfodol i helpu i oresgyn ein heriau diogelwch ynni a hinsawdd. Pe byddai’r fferm solar yn cael caniatâd, byddai’n cyfrannu at gyflawni amcanion polisi’r DU, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro, yn arallgyfeirio’r amrywiaeth ynni, ac yn hwyluso’r newid i ynni carbon isel, wrth leihau’r ddibyniaeth ar danwydd ffosil.
Credwn fod gan y safle botensial i allforio hyd at 49MW ar gapasiti brig, gan bweru hyd at 15,000 o gartrefi yng Nghymru bob blwyddyn.
Bydd y prosiect yn darparu Cronfa Budd Cymunedol bob blwyddyn dros ei oes o 40 mlynedd er budd prosiectau a mentrau lleol gan gynnwys addysg, effeithlonrwydd ynni, gwelliannau amgylcheddol, a chyfleusterau cymunedol gwell.
Articles
Dewch o hyd i'ch cwestiynau cyffredin yma
Os na allwch ddod o hyd i'r atebion yr ydych yn chwilio amdanynt, cyflwynwch eich cwestiwn gan ddefnyddio'r ffurflen ar waelod y dudalen a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn. ...
Read moreBuddion lleol
Ein nod yw cael yr effaith leiaf a darparu’r budd mwyaf i’r cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt. Mae’r cyfnod adeiladu yn un ffordd y gallwn greu buddion economaidd drwy fewnfuddsoddi, gan gynnwys...
Read moreProject timeline
The project team
Find out more about Statkraft and Solar Power
Ynglŷn â Statkraft
The history of Statkraft
A short animated video of the History of Statkraft
Visit Talayuela Solar Farm
Decide Your Future
What kind of world would you choose?