Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio

Rydym yn cynnig fferm solar â chapasiti o tua 30MW, wedi’i lleoli rhwng Penfro a Llandyfái.

Yn dilyn ymgysylltu cynnar ar y cynigion yn 2023, cawsom adborth gwerthfawr gan y gymuned leol, gan ein helpu i fireinio gosodiad a chynlluniau’r safle.

Cynllun lleoliad safle Fferm Solar Alleston.

Gweld cynllun lleoliad llawn y safle.

Bydd adborth a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol yn cael ei ddefnyddio i lywio’r cynigion terfynol, y disgwyliwn eu cyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio a’r Amgylchedd Cymru (PEDW) yn Gaeaf 2024/2025.

Rydym wedi gwneud rhai newidiadau pwysig ers yr ymgysylltu cynnar, gan gynnwys:

  • Symud mannau paneli solar o'r caeau agosaf at Heol Llandyfái Isaf ac o flaen y ffermdy rhestredig Gradd 2.
  • Cadarnhau’r llwybr ar gyfer dargyfeirio’r hawl dramwy gyhoeddus bresennol ar draws Fferm Alleston.
  • Gwella ardaloedd bioamrywiaeth ledled Fferm Alleston.
  • Creu perllan i wella gosodiad treftadaeth y safle.
  • Cynnal astudiaethau ac arolygon i’n galluogi i bennu’r llwybr trafnidiaeth sy’n cael yr effaith leiaf.
  • Wedi cyflwyno £480,000 o Gronfa Budd Cymunedol dros oes o 40 mlynedd y prosiect

Mae’r holl wybodaeth a fydd ar gael yn yr arddangosfeydd i’w gweld isod ac yn yr adran dogfennau prosiect ar wefan y prosiect, ynghyd â’r cais cynllunio drafft, ond rydym yn gobeithio y byddwch yn dod draw i’r arddangosfeydd cyhoeddus i sgwrsio am y cynigion gydag aelodau o dîm y prosiect. 

Cynhelir yr ymgynghoriad statudol o Ddydd Mawrth 8 Hydref i Ddydd Mawrth 19 Tachwedd 2024.

Digwyddiadau Cymunedol

Yn rhan o'n hymgynghoriad statudol, byddwn yn cynnal dwy arddangosfa gyhoeddus lle gallwch sgwrsio ag aelodau tîm y prosiect a rhannu eich barn ar ein cynlluniau manwl.

Dyma fanylion y ddwy arddangosfa gyhoeddus:

  • Dydd Mawrth, 22 Hydref 2024 rhwng 1pm a 6pm yn Neuadd y Dref Penfro, Stryd Fawr SA71 4JS
  • Dydd Mercher, 23 Hydref 2024 rhwng 12pm a 4:30pm yn Neuadd Bentref Llandyfái SA71 5PB

Rydym yn awyddus i glywed eich meddyliau ar y prosiect ac yn gobeithio eich gweld yn un o'n digwyddiadau.

Adborth

Rydym yn eich gwahodd i roi adborth ar ein cynigion manwl i helpu i gwblhau ein cynlluniau.

Ffurflen Adborth

Rhowch adborth i ni trwy gwblhau eich ffurflen adborth erbyn hanner nos ar Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2024.

Os hoffech chi gysylltu:

  • E-bost: E-bostiwch eich sylwadau at UKProjects@statkraft.com
  • Ysgrifennu at: Rhadbost STATKRAFT UK (nid oes angen stamp na chyfeiriad pellach) 
  • Ffonio:Rydyn ni yma i wrando ar eich barn. Gallwch siarad ag aelod o'r tîm drwy ffonio 0800 772 0668

Bydd adborth o’r ymgynghoriad statudol, ynghyd â chanlyniadau ystod o ymchwiliadau safle ac arolygon, yn ein helpu i gwblhau ein cynigion yn barod ar gyfer cyflwyno’r cais cynllunio terfynol i Benderfyniadau Cynllunio Amgylchedd Cymru (PEDW).

Yn ystod archwiliad PEDW o'r cais cynllunio byddwch yn cael cyfle i adolygu a rhoi sylwadau ar y cynigion terfynol.