Fferm Solar Alleston
Datblygiad ynni solar o tua 30MW yn Sir Benfro
Click here to view this page in English 🇬🇧
Mae'r wefan hon wedi'i chreu i ddarparu gwybodaeth am ein cynigion sy'n dod i'r amlwg ac i alluogi pobl i gysylltu â ni gyda chwestiynau ac adborth.
Bydd y wefan hon yn cael ei diweddaru wrth i’r prosiect ddatblygu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ac i glywed eich barn a’ch syniadau.
YnglÅ·n â Fferm Solar Alleston
Rydym yn datblygu cynigion ar gyfer fferm solar ar tua 100ha (247 erw) o dir amaethyddol rhwng Llandyfái a Phenfro, yn agos at reilffordd Doc Penfro-Caerfyrddin.
Mae ynni solar yn dechnoleg hanfodol i helpu i oresgyn ein heriau diogelwch ynni a hinsawdd. Pe byddai’r fferm solar yn cael caniatâd, byddai’n cyfrannu at gyflawni amcanion polisi’r DU, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro, yn arallgyfeirio’r amrywiaeth ynni, ac yn hwyluso’r newid i ynni carbon isel, wrth leihau’r ddibyniaeth ar danwydd ffosil.
Credwn fod gan y safle botensial i allforio hyd at 30MW ar gapasiti brig, gan bweru hyd at 14,000 o gartrefi yng Nghymru bob blwyddyn.
Bydd y prosiect yn darparu Cronfa Budd Cymunedol gwerth £480,000 yn ystod ei oes o 40 mlynedd er budd prosiectau a mentrau lleol gan gynnwys addysg, effeithlonrwydd ynni, gwelliannau amgylcheddol, a chyfleusterau cymunedol gwell.
Ymgynghoriad Statudol
Yn dilyn ymgysylltu cynnar ar ein cynigion sydd yn dod i’r amlwg ar gyfer Fferm Solar Alleston y llynedd, a chwblhau ymchwiliadau ac arolygon safle, rydym yn cynnal yr ymgynghoriad statudol ar ein cynigion manwl rhwng 8 Hydref a 19 Tachwedd 2024.
Bydd aelodau o dîm y prosiect ar gael i drafod y prosiect yn nigwyddiadau'r ymgynghoriad:
- 1pm tan 6pm ddydd Mawrth 22 Hydref 2024 yn Neuadd y Dref Penfro, Stryd Fawr (SA71 4JS).
- 12pm i 4.30pm ddydd Mercher 23 Hydref 2024 yn Neuadd Bentref Llandyfái (SA71 5PB).
Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw hanner nos, dydd Mawrth 19 Tachwedd 2024.
Yn dilyn yr ymgynghoriad statudol, bydd y cynigion yn cael eu cwblhau, a bydd cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) yn cael ei gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) i'w archwilio cyn cael ei benderfynu gan Weinidogion Llywodraeth Cymru.
Adborth
Gallwch roi adborth ar y prosiect drwy'r dudalen Cysylltu neu gysylltu â ni drwy e-bost yn UKprojects@statkraft.com, drwy'r post yn FREEPOST Statkraft neu dros y ffôn ar 0800 772 0668.
Articles
Dewch o hyd i'ch cwestiynau cyffredin yma
Os na allwch ddod o hyd i'r atebion yr ydych yn chwilio amdanynt, cyflwynwch eich cwestiwn gan ddefnyddio'r ffurflen ar waelod y dudalen a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn. ...
Read moreBuddion lleol
Ein nod yw cael yr effaith leiaf a darparu’r budd mwyaf i’r cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt. Mae’r cyfnod adeiladu yn un ffordd y gallwn greu buddion economaidd drwy fewnfuddsoddi, gan gynnwys...
Read moreAmserlen y prosiect
Tîm y Prosiect
Find out more about Statkraft and Solar Power
About Statkraft
The history of Statkraft
A short animated video of the History of Statkraft
Visit Talayuela Solar Farm
Decide Your Future
What kind of world would you choose?